Parti Trwyn Coch

Helo Pawb a croeso i Parti Trwyn Coch!
Rwy’n gyffrous iawn i gyhoeddi digwyddiad nesaf MIC a fydd yn glwb 45 munud ar Zoom. Bydd y clwb yn cael ei gynnal ar 19eg o Fawrth 2021 (diwrnod Trwyn Coch) a bydd yn cynnwys gemau, gweithgareddau a neges fer o’r Beibl. Mae’r digwyddiad ar gyfer plant ysgol Gynradd blynyddoedd 3-6.

Oherwydd bod y digwyddiad ar Zoom gofynnwn ichi gofrestru’ch plentyn i’r digwyddiad er mwyn cadw manylion pawb yn breifat ac yn ddiogel. Dyma’r ddolen i’n ffurflen gofrestru os nad ydych wedi bod i un o’n digwyddiadau ar Zoom o’r blaen:

https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSdPGogBsdnol6pyMN6vCPgYlu3ttws7ZZo5BtQI8yiZtIONdQ/viewform?usp=sf_link

Os ydych wedi cofrestru i un o’n digwyddiadau Zoom o blaen, plis defnyddiwch y link isod gan y bydd gennym y rhan fwyaf o’ch manylion yn barod. Diolch!

https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSd5qVnYL63SwZR-X0xbG3WcxPvbNAa6ly5F3LMdgHYPCt0D8A/viewform?usp=sf_link

Bydd pecyn parti gyda losin a gweithgareddau yn cael ei anfon at bawb sy’n cofrestru cyn Dydd Gwener 12fed felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cofrestru cyn gynted â phosib fel na fyddwch chi’n colli allan! Gweld chi yno!

Author: admin

Share This Post On