Prynhawn ar y traeth!
Mae’r haul yn tywynnu ac mae’r dŵr yn cynhesu felly dyma’r amser perffaith i fod ar y traeth. Dyna pam rwy’n falch o ddweud y bydd ein digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal wyneb i wyneb ar draeth Pembrey! Mae ‘Prynhawn ar y traeth’ yn union fel beth sy’n cael ei ddweud ar y fflyer; 2 awr o hwyl a gemau ar y traeth i blant oed ysgol gynradd, gyda neges byr o’r Beibl a chystadleuaeth adeiladu...
Parti Pancws!
Helo Pawb a croeso i Parti Pancws! Rwy’n gyffrous iawn i gyhoeddi digwyddiad nesaf MIC a fydd yn glwb 45 munud ar Zoom. Bydd y clwb yn cael ei gynnal ar 16eg o Chwefror 2021 (diwrnod Pancws) a bydd yn cynnwys gemau, gweithgareddau a neges fer o’r Beibl. Mae’r digwyddiad ar gyfer plant ysgol Gynradd blynyddoedd 3-6. Oherwydd bod y digwyddiad ar Zoom gofynnwn ichi gofrestru’ch plentyn i’r digwyddiad er mwyn cadw...
Joio Gyda Iesu 2019
Cynhaliwyd oedfa flynyddol M.I.C., sef “Joio Gyda Iesu” yng Nghapel Seion, Drefach ar brynhawn Sul Tachwedd 3ydd. Daeth tyrfa niferus ynghyd, ac roedd yn bleser i weld y llofft a’r llawr bron yn llawn. Arweiniwyd yr addoliad yn fywiog a hwylus gyda Marie Seymour yn cyfeilio, Aled Mainwaring yn chwarae’r gitâr a Wayne Griffiths ar y drymiau. Cymerwyd rhan gan aelodau ifanc o Ysgolion Sul y cylch a bu côr Ysgol Drefach yn canu dwy gân...
Taith Stori’r Mis 2019
Ers nifer o flynyddoedd bellach, mae’r Suliau yn ystod Hydref a Thachwedd yn cael eu neilltuo gennyf i ymweld ag eglwysi ac annerch mewn oedfaon teuluol. Unwaith eto eleni mae’r dyddiadur wedi bod yn llawn a charwn ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi estyn gwahoddiad i mi ymweld. Mae bob amser yn fraint i gael cwrdd gyda phlant, ieuenctid a’u teuluoedd ac i rannu ganddynt y newyddion da am Iesu Grist. Roedd y neges eleni yn seiliedig ar...
Tanio’r Fflam 2019
Oedfa ar gyfer plant ac ieuenctid capeli ardaloedd San Clêr, Bancyfelin, Meidrim a’r cylch yw Tanio’r Fflam. Eleni cynhaliwyd yr oedfa yng nghapel Bancyfelin. Thema’r oedfa oedd “Gwyrthiau Iesu” a chafwyd darlleniadau o’r Ysgrythur a chyflwynwyd emynau gan blant a phobl ifanc o gapeli Bancyfelin; Cana; Tŷ Hen; Trinity, San Clêr; Gibeon; Ffynnonbedr; a Bethlehem, Pwll Trap. Yn arwain yr oedfa oedd Dr Eirian Thomas ac yn chwarae yn y...