Clwb Gwyliau’r Pasg (Penygroes)
Cafodd rhai o blant ardal Penygroes a’r cylch amser wrth eu bodd ar ddechrau gwyliau’r Pasg wrth iddynt fynychu Clwb Gwyliau Cristnogol yn Neuadd Goffa Penygroes o’r dydd Llun – dydd Mercher (10:30 y.b.– 12:30 y.p.). Daeth 21 o blant ynghyd dros y tri diwrnod a chawsant hwyl fawr wrth gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o gemau, gweithgareddau, stori a chrefft. Roedd y cyfan wedi ei blethu yn ofalus o gwmpas un o storiau Iesu, sef dameg...
Clwb Gwyliau Pontyberem
Yn ystod hanner tymor Chwefror cynhaliwyd clwb gwyliau yn Neuadd Pontyberem dros gyfnod o 3 diwrnod o dan drefniant Henaduriaeth Myrddin ac mewn cydweithrediad â M.I.C. Daeth 41 o blant ynghyd i fwynhau gweithgareddau llawn hwyl a chyffro o gwmpas thema Feiblaidd. Bob dydd cafwyd gemau amrywiol, stori gyffrous a chrefft. Diweddwyd y clwb gwyliau gyda pharti ac fe aeth y plant adre wedi mwynhau ac wedi dysgu llawer am y newyddion da...
Chwaraeon 2019
Diwrnod pwysig yng nghalendr Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol sir Gâr yw’r cystadlaethau pêl droed a phêl rwyd. Cynhaliwyd y cystadlaethau eleni ar ddydd Sadwrn Ionawr 19eg yng nghanolfan hamdden Caerfyrddin. Yn ôl yr arfer, daeth timoedd ar draws y sir i gymryd rhan a chafwyd cystadlu brwd a llawer o hwyl. Ffordd ddelfrydol felly i ddechrau blwyddyn newydd o weithgareddau cyffrous ar gyfer yr Ysgolion Sul a’r clybiau Cristnogol....
Cwpan Her Penfro – Myrddin 2018
Mae cwpan her Penfro – Myrddin yn gystadleuaeth flynyddol rhwng buddugwyr cystadlaethau pêl droed Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol sir Benfro a drefnir gan bwyllgor Yr Egin Gwyrdd, ac Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol sir Gaerfyrddin a drefnir gan M.I.C. Eleni, y timoedd o sir Gaerfyrddin oedd gartref a chynhaliwyd y gemau yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin. Yn cynrychioli sir Benfro yn yr oed cynradd oedd tîm cylch Carn Ingli, ac...
Noson Hwyl I Bobl Ifanc
C.I.C. Ar Daith Arbrawf newydd yng nghalendr gweithgareddau M.I.C. oedd cynnal noson hwyl i bobl ifanc, a hynny mewn cydweithrediad â Choleg Y Bala. Mewn cyfnod pan fod nifer y bobl ifanc sydd mewn cysylltiad â chapel ac eglwys yn brin, roedd yn dda i fedru trefnu digwyddiad i’w gwahodd ynghyd o wahanol ardaloedd ar draws y sir. Cyfarfu’r bobl ifanc yn gyntaf oll yn y “Laser Station” yng Nghaerfyrddin ble cawsant hwyl fawr yn chwarae...