Bwrlwm Bro Caerfyrddin a’r Cylch 2019

Ar Ddydd Sul Gorffennaf 14eg cynhaliwyd Bwrlwm Bro yr Ysgolion Sul fel rhan o ddathliadau Gŵyl Y Sul Sbesial yn Yr Egin, Caerfyrddin. Braf oedd cael croesawu plant o Ysgolion Sul y cylch i’r achlysur arbennig hwn.

Roedd y thema yn seiliedig ar hanes Sacheus, y casglwr trethi anonest, wnaeth newid yn llwyr a dod yn ddyn newydd ar ôl iddo gwrdd gyda Iesu. Trwy gyfrwng cyflwyniad “PowerPoint”, hud, ffilm a chrefft daeth y stori yn fyw ym mhrofiad y plant. Dysgwyd bod Duw yn caru hyd yn oed bobl ddrwg fel Sacheus a’i fod bob amser yn barod i faddau i’r rhai sy’n troi ato.

Y nod oedd gwneud yr Ysgol Sul yn achlysur llawn hwyl, heb golli golwg ar y prif bwrpas o gyflwyno efengyl Iesu Grist mewn ffordd syml, ddealladwy a pherthnasol ar gyfer heddiw.

Cliciwch ar y lluniau er mwyn chwyddo eu maint ac yna sgroliwch o un i’r llall.

 

Author: nigel

Share This Post On