Bwrlwm Bro Dyffryn Aman 2019

Ar Ddydd Sul Mai 17eg cynhaliwyd Bwrlwm Bro Ysgolion Sul cylch Dyffryn Aman yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman. Braf oedd cael croesawu plant o Moriah, Brynaman; Gellimanwydd, Rhydaman; Ebeneser, Rhydaman; a Chapel Hendre.

Roedd y thema yn seiliedig ar hanes Sacheus, y casglwr trethi anonest, wnaeth newid yn llwyr a dod yn ddyn newydd ar ôl iddo gwrdd gydag Iesu. Trwy gyfrwng cyflwyniad “PowerPoint”, ffilm, hud, gêm a chrefft daeth y stori yn fyw ym mhrofiad y plant. Dysgwyd bod Duw yn caru hyd yn oed bobl ddrwg fel Sacheus a’i fod bob amser yn barod i faddau i’r rhai sy’n troi ato.

Y nod oedd gwneud yr Ysgol Sul yn achlysur llawn hwyl, heb golli golwg ar y prif bwrpas o gyflwyno efengyl Iesu Grist mewn ffordd syml, ddealladwy a pherthnasol ar gyfer heddiw.

Cliciwch ar y lluniau er mwyn chwyddo eu maint ac yna sgroliwch o un i’r llall.

Author: nigel

Share This Post On