Ar Ddydd Sul Mehefin 10fed cynhaliwyd Bwrlwm Bro Ysgolion Sul Llangadog a’r cylch yng Nghanolfan Cymdeithasol Llangadog a braf oedd cael croesawu plant o rai o Ysgolion Sul y cylch.
Roedd y thema yn seiliedig ar hanes Sacheus, y casglwr trethi anonest, wnaeth newid yn llwyr a dod yn ddyn newydd ar ôl iddo gwrdd gydag Iesu. Trwy gyfrwng cyflwyniad “PowerPoint”, ffilm, hud, gêm a chrefft daeth y stori yn fyw ym mhrofiad y plant. Dysgwyd bod Duw yn caru hyd yn oed bobl ddrwg fel Sacheus a’i fod bob amser yn barod i faddau i’r rhai sy’n troi ato.
Y nod oedd gwneud yr Ysgol Sul yn achlysur llawn hwyl, heb golli golwg ar y prif bwrpas o gyflwyno efengyl Iesu Grist mewn ffordd syml, ddealladwy a pherthnasol ar gyfer heddiw.
Cliciwch ar y lluniau er mwyn chwyddo eu maint ac yna sgroliwch o un i’r llall.
- Llun o’r grŵp.
- Chwarae gêm.
- Chwarae gêm.
- Chwarae gêm.
- Chwarae gêm.
- Chwarae gêm.
- Chwarae gêm.
- Chwarae gêm.
- Chwarae gêm.
- Chwarae gêm.
- Chwarae gêm.
- Chwarae gêm.
- Chwarae gêm.
- Chwarae gêm.
- Gwaith crefft.
- Gwaith crefft.
- Gwaith crefft.
- Gwaith crefft.
- Gwaith crefft.
- Gwaith crefft.
- Gwaith crefft.
- Gwaith crefft.
- Gwaith crefft.