Chwaraeon 2019
Diwrnod pwysig yng nghalendr Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol sir Gâr yw’r cystadlaethau pêl droed a phêl rwyd. Cynhaliwyd y cystadlaethau eleni ar ddydd Sadwrn Ionawr 19eg yng nghanolfan hamdden Caerfyrddin. Yn ôl yr arfer, daeth timoedd ar draws y sir i gymryd rhan a chafwyd cystadlu brwd a llawer o hwyl. Ffordd ddelfrydol felly i ddechrau blwyddyn newydd o weithgareddau cyffrous ar gyfer yr Ysgolion Sul a’r clybiau Cristnogol....
Joio Gyda Iesu 2018
Eleni, cynhaliwyd oedfa flynyddol M.I.C. sef “Joio Gyda Iesu”, yng nghapel Gellimanwydd, Rhydaman. Daeth tyrfa niferus ynghyd ac roedd yn hyfryd i weld y llawr yn llawn a nifer o seddi i fyny’r llofft wedi eu cymryd hefyd. Arweiniwyd yr addoliad yn fywiog a hwylus gyda Lisa Pritchard yn cyfeilio ac Elfyn Evans yn chwarae’r gitâr. Cymerwyd rhan gan aelodau ifanc o Ysgolion Sul y cylch a bu côr Ysgol Rhydaman yn canu dwy gân yn hyfryd a...
Taith Stori’r Mis 2018
Mae tymor yr Hydref yn adeg pan rwyf ar gael i ymweld ag eglwysi ac i arwain oedfaon teuluol. Mae bob amser yn fraint i gael cwrdd gyda phlant ac ieuenctid yn eu cynefin ac i rannu ganddynt mewn ffordd hwyl y newyddion da am Iesu Grist. Eleni buom yn edrych ar hanes y groes o safbwynt y ddau droseddwr a ddienyddiwyd ar yr un adeg â Iesu. Trwy gyfrwng amrywiaeth o ddulliau gweledol a gyda chymorth plant o’r gynulleidfa y nod oedd...
Mabolgampau 2018
Un o brif ddigwyddiadau cymdeithasol y flwyddyn i nifer o Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol sir Gaerfyrddin yw’r mabolgampau blynyddol. Unwaith eto eleni daeth cannoedd ynghyd i gefnogi’r fenter hon sy’n creu llawer o gyffro ac sy’n rhoi pleser o’r mwyaf i blant a phobl ifanc o bob oed. Yn dilyn rowndiau rhagbrofol ar gyfer eglwysi dwyrain a gorllewin y sir, cynhaliwyd y rowndiau terfynol yng nghanolfan hamdden Caerfyrddin. Gyda’r...
Bwrlwm Bro Llangadog a’r Cylch
Ar Ddydd Sul Mehefin 17eg cynhaliwyd Bwrlwm Bro Ysgolion Sul Llangadog a’r cylch yng Nghanolfan Cymdeithasol a’r cylch. Prif bwrpas yr achlysur oedd calonogi a sbarduno gwaith yr Ysgol Sul trwy roi cyfle llawn hwyl i blant ddysgu a chymdeithasu yng nghwmni ei gilydd. Roedd y thema yn seiliedig ar ddameg y ddafad a fu ar goll. Trwy gyfrwng cyflwyniad “PowerPoint”, ffilm, hud, gêm a chrefft daeth y stori yn fyw ym mhrofiad y...
Bwrlwm Bro Cwm Gwendraeth a’r Cylch
Ar Ddydd Sul Mehefin 10fed cynhaliwyd Bwrlwm Bro Ysgolion Sul Cwm Gwendraeth a’r cylch yn Neuadd Bethesda, Tymbl. Prif bwrpas yr achlysur oedd calonogi a sbarduno gwaith yr Ysgol Sul trwy roi cyfle llawn hwyl i blant ddysgu a chymdeithasu yng nghwmni ei gilydd. Roedd y thema yn seiliedig ar ddameg y ddafad a fu ar goll. Trwy gyfrwng cyflwyniad “PowerPoint”, ffilm, hud, gêm a chrefft daeth y stori yn fyw ym mhrofiad y plant. Dysgwyd...