Parti Pancws!
Helo Pawb a croeso i Parti Pancws! Rwy’n gyffrous iawn i gyhoeddi digwyddiad nesaf MIC a fydd yn glwb 45 munud ar Zoom. Bydd y clwb yn cael ei gynnal ar 16eg o Chwefror 2021 (diwrnod Pancws) a bydd yn cynnwys gemau, gweithgareddau a neges fer o’r Beibl. Mae’r digwyddiad ar gyfer plant ysgol Gynradd blynyddoedd 3-6. Oherwydd bod y digwyddiad ar Zoom gofynnwn ichi gofrestru’ch plentyn i’r digwyddiad er mwyn cadw...
Parti Blwyddyn Newydd MIC
Helo Pawb a chroeso i parti blwyddyn newydd MIC! Dyma fideo bach gyda lot o gemau, hwyl, crefft a hanes o’r Beibl yn edrych ar yr blwyddyn newydd. Diolch am wylio a mwynhewch!
Taith Stori’r Mis 2!
Mae’r ail bennod o ‘Taith Stori’r Mis’ yma ac nid yw’n un i golli allan arno! Yn yr fideo yma mae yna gemau, crefft, gweithgareddau ac sianlens i chi trio adre! Hefyd bydd ni’n edrych i fewn i sut gallwn ni ymateb bod Iesu, fab Duw, wedi dod i achub yr byd. Diolch am wylio!
Taith Stori’r Mis!
Helo Pawb a chroeso i Taith Stori’r Mis! Set o 2 fideo yw Taith Stori’r Mis, lle bydd gemau, gweithgareddau, crefft a hyd yn oed cystadlaethau gyda siawns o ennill gwobr! Byddwn hefyd yn edrych ar wir ystyr y Nadolig ac yn archwilio sut yr addawyd Duw Iesu yn achubwr y byd. Mi fydd yr ail ar gael ar Ragfyr 6ed. Dyma’r fideo gyntaf, Diolch am wylio!
Chwarareon 2020
Chwaraeon 2020 Diwrnod pwysig yng nghalendr Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol sir Gâr yw’r cystadlaethau pêl droed a phêl rwyd. Cynhaliwyd y cystadlaethau eleni yng nghanolfan hamdden Caerfyrddin ar ddydd Sadwrn 18fed o Ionawr. Cymerodd 19 o dimau bywiog a brwdfrydig ran yn y gystadleuaeth. Ffordd ddelfrydol felly i ddechrau blwyddyn newydd o weithgareddau cyffrous ar gyfer yr Ysgolion Sul a’r clybiau Cristnogol yn y Sir. Dyma’r...
Joio Gyda Iesu 2019
Cynhaliwyd oedfa flynyddol M.I.C., sef “Joio Gyda Iesu” yng Nghapel Seion, Drefach ar brynhawn Sul Tachwedd 3ydd. Daeth tyrfa niferus ynghyd, ac roedd yn bleser i weld y llofft a’r llawr bron yn llawn. Arweiniwyd yr addoliad yn fywiog a hwylus gyda Marie Seymour yn cyfeilio, Aled Mainwaring yn chwarae’r gitâr a Wayne Griffiths ar y drymiau. Cymerwyd rhan gan aelodau ifanc o Ysgolion Sul y cylch a bu côr Ysgol Drefach yn canu dwy gân...