Mabolgampau Dan Do 2019
Daeth tymor arall o weithgareddau ar gyfer Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol sir Gaerfyrddin i derfyn gyda digwyddiad mwyaf poblogaidd y flwyddyn, sef y mabolgampau dan do. Daeth cannoedd ynghyd i gymryd rhan ac i gefnogi dros dair noson o gystadlu. Yr uchafbwynt oedd rowndiau terfynol y sir a gynhaliwyd yng nghanolfan hamdden Caerfyrddin. Llanwyd y neuadd chwaraeon i’r ymylon wrth i blant a phobl ifanc o’r oed meithrin hyd at...
Bwrlwm Bro Caerfyrddin a’r Cylch 2019
Ar Ddydd Sul Gorffennaf 14eg cynhaliwyd Bwrlwm Bro yr Ysgolion Sul fel rhan o ddathliadau Gŵyl Y Sul Sbesial yn Yr Egin, Caerfyrddin. Braf oedd cael croesawu plant o Ysgolion Sul y cylch i’r achlysur arbennig hwn. Roedd y thema yn seiliedig ar hanes Sacheus, y casglwr trethi anonest, wnaeth newid yn llwyr a dod yn ddyn newydd ar ôl iddo gwrdd gyda Iesu. Trwy gyfrwng cyflwyniad “PowerPoint”, hud, ffilm a chrefft daeth y stori yn fyw ym...
Bwrlwm Bro Cwm Gwendraeth a’r Cylch 2019
Ar Ddydd Sul Mehefin 23ain cynhaliwyd Bwrlwm Bro Cwm Gwendraeth a’r Cylch yn Neuadd Bethesda Tymbl a braf oed cael croesawu plant o Ysgolion Sul yr ardal a thu hwnt. Roedd y thema yn seiliedig ar hanes Sacheus, y casglwr trethi anonest, wnaeth newid yn llwyr a dod yn ddyn newydd ar ôl iddo gwrdd gyda Iesu. Trwy gyfrwng cyflwyniad “PowerPoint”, hud, gêm a chrefft daeth y stori yn fyw ym mhrofiad y plant. Dysgwyd bod Duw yn caru...
Bwrlwm Bro Llangadog a’r Cylch 2019
Ar Ddydd Sul Mehefin 10fed cynhaliwyd Bwrlwm Bro Ysgolion Sul Llangadog a’r cylch yng Nghanolfan Cymdeithasol Llangadog a braf oedd cael croesawu plant o rai o Ysgolion Sul y cylch. Roedd y thema yn seiliedig ar hanes Sacheus, y casglwr trethi anonest, wnaeth newid yn llwyr a dod yn ddyn newydd ar ôl iddo gwrdd gydag Iesu. Trwy gyfrwng cyflwyniad “PowerPoint”, ffilm, hud, gêm a chrefft daeth y stori yn fyw ym mhrofiad y plant....
Bwrlwm Bro Dyffryn Aman 2019
Ar Ddydd Sul Mai 17eg cynhaliwyd Bwrlwm Bro Ysgolion Sul cylch Dyffryn Aman yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman. Braf oedd cael croesawu plant o Moriah, Brynaman; Gellimanwydd, Rhydaman; Ebeneser, Rhydaman; a Chapel Hendre. Roedd y thema yn seiliedig ar hanes Sacheus, y casglwr trethi anonest, wnaeth newid yn llwyr a dod yn ddyn newydd ar ôl iddo gwrdd gydag Iesu. Trwy gyfrwng cyflwyniad “PowerPoint”, ffilm, hud, gêm a chrefft daeth y...
Clwb Gwyliau’r Pasg (Penygroes)
Cafodd rhai o blant ardal Penygroes a’r cylch amser wrth eu bodd ar ddechrau gwyliau’r Pasg wrth iddynt fynychu Clwb Gwyliau Cristnogol yn Neuadd Goffa Penygroes o’r dydd Llun – dydd Mercher (10:30 y.b.– 12:30 y.p.). Daeth 21 o blant ynghyd dros y tri diwrnod a chawsant hwyl fawr wrth gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o gemau, gweithgareddau, stori a chrefft. Roedd y cyfan wedi ei blethu yn ofalus o gwmpas un o storiau Iesu, sef dameg...