Chwaraeon 2019

Diwrnod pwysig yng nghalendr Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol sir Gâr yw’r cystadlaethau pêl droed a phêl rwyd. Cynhaliwyd y cystadlaethau eleni ar ddydd Sadwrn Ionawr 19eg yng nghanolfan hamdden Caerfyrddin. Yn ôl yr arfer, daeth timoedd ar draws y sir i gymryd rhan a chafwyd cystadlu brwd a llawer o hwyl. Ffordd ddelfrydol felly i ddechrau blwyddyn newydd o weithgareddau cyffrous ar gyfer yr Ysgolion Sul a’r clybiau Cristnogol.

Dyma’r timoedd a fu’n fuddugol ar y dydd:

Pêl Droed Cynradd

1af: Siloam, Pontargothi

2ail: Capel Newydd, Llandeilo

 Pêl Rwyd Cynradd:

1af: Capel Newydd Llanddarog

2ail: Siloam, Pontargothi

Pêl Droed Uwchradd:

1af: Priordy Caerfyrddin

2ail: Providence Llangadog

Pêl Rwyd Uwchradd:

1af: Priordy Caerfyrddin

2ail: Capel Newydd Llanddarog / Capel Blaenycoed

Llongyfarchiadau i’r timoedd uchod ac i bawb wnaeth gymryd rhan gan gyfrannu at ddiwrnod arbennig iawn ym mhrofiad plant ac ieuenctid Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol ein sir.

Diolch yn fawr i Gaynor, Heulwen a Sioned am ddyfarnu’r pêl rwyd ac i Corey am ddyfarnu’r bêl droed. Diolch hefyd i’r Parchg. Beti Wyn James am dynnu’r lluniau.

 Cliciwch ar lun er mwyn chwyddo ei faint ac yna sgroliwch o un llun i’r llall.

Author: nigel

Share This Post On