Chwaraeon 2020
Diwrnod pwysig yng nghalendr Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol sir Gâr yw’r cystadlaethau pêl droed a phêl rwyd. Cynhaliwyd y cystadlaethau eleni yng nghanolfan hamdden Caerfyrddin ar ddydd Sadwrn 18fed o Ionawr. Cymerodd 19 o dimau bywiog a brwdfrydig ran yn y gystadleuaeth. Ffordd ddelfrydol felly i ddechrau blwyddyn newydd o weithgareddau cyffrous ar gyfer yr Ysgolion Sul a’r clybiau Cristnogol yn y Sir.
Dyma’r timoedd a fu’n fuddugol ar y dydd:
Pêl Droed Cynradd
1af: Capel Newydd Llanddarog
2ail: Siloam, Pontargothi
Pêl Rwyd Cynradd:
1af: Capel Newydd Llanddarog
2ail: Capel Blaenycoed; Capel Bryn Iwan; Priordy Caerfyrddin
Pêl Droed Uwchradd:
1af: Priordy Caerfyrddin
2ail: Providence Llangadog
Pêl Rwyd Uwchradd:
1af: Capel Seion, Drefach
2ail: Priordy Caerfyrddin; Capel Bancyfelin
Llongyfarchiadau i’r timoedd uchod ac i bawb wnaeth gymryd rhan gan gyfrannu at ddiwrnod arbennig iawn ym mhrofiad plant ac ieuenctid Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol ein sir.
Diolch yn fawr i Gaynor, Heulwen a Sioned am ddyfarnu’r bêl rwyd ac i Rhys a Corey am ddyfarnu’r bêl droed. Diolch hefyd i’r Parchg. Beti Wyn James am dynnu’r lluniau a helpu rhedeg y twrnament ar y diwrnod.
Cliciwch ar lun er mwyn chwyddo ei faint.