Clwb Gwyliau Llangennech

Yn ystod hanner tymor Chwefror trefnwyd clwb gwyliau Cristnogol yn Ysgol Iau Llangennech. Roedd y clwb ar gyfer plant blynyddoedd 2 – 6 a chafodd y rhai a ddaeth ynghyd hwyl fawr wrth gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o gemau, gweithgareddau a chrefft. Y thema o dan sylw oedd dameg “Y Wledd Briodas” ac fe wnaeth y plant ymateb yn dda i’r cyflwyniadau bywiog a gweledol a gafwyd. Mae’r lluniau isod yn adrodd yr hanes.

Cliciwch ar lun er mwyn chwyddo ei faint ac yna sgroliwch o un llun i’r llall.

Author: nigel

Share This Post On