Clwb Gwyliau Pontyberem

Yn ystod hanner tymor Chwefror cynhaliwyd clwb gwyliau yn Neuadd Pontyberem dros gyfnod o 3 diwrnod o dan drefniant Henaduriaeth Myrddin ac mewn cydweithrediad â M.I.C. Daeth 41 o blant ynghyd i fwynhau gweithgareddau llawn hwyl a chyffro o gwmpas thema Feiblaidd. Bob dydd cafwyd gemau amrywiol, stori gyffrous a chrefft. Diweddwyd y clwb gwyliau gyda pharti ac fe aeth y plant adre wedi mwynhau ac wedi dysgu llawer am y newyddion da a’r gobaith sydd ar gael yn Iesu Grist.

Cliciwch ar y lluniau er mwyn chwyddo eu maint ac yna sgroliwch o un i’r llall.

Author: nigel

Share This Post On