Cyflwyno MIC
Sefydlwyd M.I.C. ym mis Medi 2009 i gydweithio gydag eglwysi sir Gaerfyrddin er mwyn hyrwyddo gwaith a thystiolaeth yr efengyl ymhlith plant ac ieuenctid. Mae M.I.C. yn ymdrechu i wneud hyn mewn ffyrdd cyfoes a pherthnasol ar gyfer ein hoes. Trefnir amrywiaeth o weithgareddau llawn hwyl a chyffro gan gynnwys digwyddiadau cymdeithasol fel cystadlaethau pêl droed, pêl rwyd a mabolgampau yn ogystal â digwyddiadau fel Bwrlwm Bro, clybiau adeg gwyliau ac oedfaon cyfoes, sy’n cymell yr ifanc i ystyried galwad Duw ar eu bywyd. Un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw gweld sefydlu nifer o glybiau Cristnogol i blant sy’n cyfarfod gyda’r hwyr. Trefnir y clybiau hyn gyda chymorth a chefnogaeth Henaduriaeth Myrddin. Prif fwriad M.I.C. yw cyhoeddi Iesu Grist fel Arglwydd a Gwaredwr gan feithrin yn yr ifanc yr ymwybyddiaeth bod gwir Gristnogaeth yn ymwneud a phob agwedd o fywyd ac nid yn unig mynychu oedfaon ar y Sul.
Rhaglen Bwrw Golwg, BBC, ynglŷn â MIC Sir Gâr. Cliciwch ar y linc isod i glywed y rhaglen:
Rhaglen Bwrw Golwg ynglŷn a MIC Sir Gâr
Jack Newbould
Y person sydd wedi ei benodi i arwain gwaith M.I.C. yw Jack Newbould. Mae’n weithiwr ifanc, creadigol ac egnïol gyda dros 10 blynyddoedd o brofiad mewn arweinyddiaeth Gristnogol gyda phlant ac ieuenctid. Mae gan Jack angerdd i rannu’r Efengyl i bobl ifanc Cymru trwy weithgareddau hwyliog ar gyfer pob oedran. Mae Jack yn cael ei gefnogi yn y gwaith gan bwyllgor llywio sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r enwadau yn lleol.
Yn cynrychioli’r Presbyteriaid mae Mr. Emyr Williams; Miss Helen Rees; Mrs Helen Gibbon; Mrs. Beryl Voyle.
Yn cynrychioli’r Bedyddwyr mae Mrs. Einir Jones; Mr. David Evans; Parchg. John Treharne; Mrs. Lorraine Williams.
Yn cynrychioli’r Annibynwyr mae Y Parchg. Tom Defis; Mrs. Suzanne Davies; Mrs. Marie Lynne Jones; Mr. Peter Harries.
Gellir cysylltu â Jack trwy lythyr at:
MIC,
75 Heol Dwr,
Caerfyrddin SA31 1PZ
E-bost: jack.newbould@ebcpcw.cymru
Ffôn: 07930588789