Ar noson Ddydd Gŵyl Sant Ffolant daeth tyrfa dda ynghyd i festri capel Penuel Caerfyrddin ar gyfer achlysur arbennig iawn yng nghalendr Ysgolion Sul sir Gaerfyrddin, sef y Cwis Beiblaidd blynyddol. Yn ôl yr arfer, cafwyd noson oedd yn llawn hwyl a chyffro wrth i blant gystadlu mewn cwis oedd yn amrywiol ac yn weledol. Mewn dyddiau o ddifaterwch ysbrydol ac o anwybodaeth Feiblaidd rhaid llongyfarch pawb wneth gymryd rhan am eu brwdfrydedd ac ehangder eu gwybodaeth o’r Ygrythurau.
Y pedwar tîm a wnaeth gyrraedd y rownd gynderfynol oedd:
Priordy, Caerfyrddin
Bethesda, Tymbl
Capel Newydd, Llanddarog
Siloam, Pontargothi
Bu’r cystadlu yn frwd ac yn gyffrous ac o fewn trwch blewyn llwyddodd timoedd Y Priordy a Siloam i gyrraedd y rownd derfynol.
Yn y rownd derfynol newidiwyd ffurf y cwis i “Who Wants To Be A Millionaire?” Y tîm cyntaf i gystadlu oedd Y Priordy. Gan ddefnyddio ond un llinell bywyd fe aeth y tîm i fyny i lefel 7 (o 15 posib), yn weddol hawdd cyn iddynt wneud un camgymeriad a llithro nôl i lefel 5. Yna, heb wybod beth oedd sgôr Y Priordy, daeth tîm Siloam nôl mewn i’r ystafell ac fe wnaethon nhw’n rhagorol, a bu bron iddynt gyrraedd y jac pot, gan ddefnyddio dwy linell bywyd. Ond, yn anffodus, fe wnaethon nhw fethu ar y cwestiwn olaf oll a gostwng i lefel 10. Ond, roedd hynny’n ddigon iddynt ennill y gystadleuaeth a dod yn bencampwyr cwis Beiblaidd sir Gaerfyrddin am y tro cyntaf.
Llongyfarchiadau mawr i dîm Siloam ac i bawb wnaeth gymryd rhan a chyfrannu at noson hwylus a hapus dros ben.
(Cliciwch ar lun ac yna ar ôl ei agor, cliciwch arno eto er mwyn chwyddo ei faint).