Cwpan Her Penfro – Myrddin 2018

Mae cwpan her Penfro – Myrddin yn gystadleuaeth flynyddol rhwng buddugwyr cystadlaethau pêl droed Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol sir Benfro a drefnir gan bwyllgor Yr Egin Gwyrdd, ac Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol sir Gaerfyrddin a drefnir gan M.I.C. Eleni, y timoedd o sir Gaerfyrddin oedd gartref a chynhaliwyd y gemau yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin. Yn cynrychioli sir Benfro yn yr oed cynradd oedd tîm cylch Carn Ingli, ac yn cynrychioli sir Gâr oedd tîm a ffurfiwyd ar y cyd rhwng Capel Newydd Llanddarog a Providence, Llangadog. Cymerodd y tîm cartref afael yn y chwarae o’r dechrau gan sgorio goliau cynnar cyn mynd ymlaen i ennill yn gyffyrddus o 8-1.

Yn syth ar ôl y gystadleuaeth gynradd daeth y bechgyn hŷn i’r maes. Yn cynrychioli sir Benfro oedd tîm eglwys Casblaidd ac yn cynrychioli sir Gaerfyrddin oedd tîm a ffurfiwyd ar y cyd rhwng Tabernacl Hendy Gwyn Ar Daf a Bethlehem, Pwll Trap. Fel y disgwyl, cafwyd cystadleuaeth frwd gyda’r tîm o sir Gâr yn mynd ar y blaen yn gynnar gan sgorio 3 gôl cyn i dîm Casblaidd i daro nôl i wneud y sgôr yn 3-1. Ond cyn hir fe aeth y tîm cartref ymhellach ar y blaen gan ennill y gêm o 5-1. Dyma’r ail dro yn olynol i dîm Tabernacl, Hendy gwyn a Bethlehem, Pwll Trap i ennill y gystadleuaeth hon.

Cyflwynwyd y cwpanau gan Bonni Davies (ysgrifenyddes) a’r Parchg. Eirian Wyn Lewis (cadeirydd) o bwyllgor Yr Egin Gwyrdd sir Benfro, ac am eleni bydd y ddau gwpan her yn aros yn sir Gâr.

Isod mae lluniau o’r timoedd. Cliciwch ar lun, ac yna ar ôl ei agor cliciwch arno eto er mwyn chwyddo ei faint.

Author: nigel

Share This Post On