Sefydlu Clybiau Cristnogol Newydd

      “Gadewch I’r Plant Ddod Ataf Fi”

Mae Iesu Grist wedi gorchymyn i`w eglwys i fynd â`r efengyl i`r holl fyd ac mae hynny`n golygu nid yn unig gwledydd pell dros y môr ond hefyd ein pentrefi a`n trefi yma yng Nghymru. Gwyddom i gyd am y dirywiad mawr yn hanes Cristnogaeth yn ein gwlad ac fel mae cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o blant yn tyfu fyny heb wybod fawr ddim am Dduw a`r ystyr i fywyd sydd ar gael ym mherson Iesu Grist.

Mae Menter Ieuenctid Cristnogol (M.I.C.), gyda chefnogaeth ariannol wrth gynllun strategaeth Henaduriaeth Myrddin, wedi cychwyn ar gynllun cyffrous i sefydlu nifer o glybiau Cristnogol newydd i blant (7-11 oed) ar hyd a lled sir Gaerfyrddin. Y nod yn syml iawn yw cydweithio gydag eglwysi o bob enwad, yn ogystal ag ysgolion lleol, i ffurfio clybiau plant fydd yn cyflwyno neges y Beibl mewn ffordd sy’n gyfoes a llawn hwyl.

Mae’r broses o sefydlu clwb yn cymryd misoedd o gynllunio manwl ymlaen llaw ynghyd ag hyfforddiant i’r rhai fydd yn cynorthwyo o wythnos i wythnos. Penodir arweinydd ar bob clwb a thelir cydnabyddiaeth o £40 y sesiwn a chostau teithio. Mewn cyfnod o drai ar y ffydd Gristnogol yn ein gwlad, ein nod fel Menter yw sicrhau bod tystiolaeth am yr efengyl yn cael ei gynnig i blant a fyddai fel arall yn amddifad o’r fraint.

Os ydych yn byw o fewn sir Gaerfyrddin ac os oes gennych chi ddiddordeb i weld clwb Cristnogol i blant yn cael ei sefydlu yn eich ardal chi, yna dewch i gysylltiad. Rydym hefyd yn chwilio am bersonau cymwys sy’n caru’r Arglwydd Iesu Grist ac sy’n barod i weithio gyda phlant i fod yn arweinwyr yn y clybiau hyn. Mae gan blant Cymru’r hawl i glywed y newyddion da am Iesu Grist ac mae`n gyfrifoldeb ar yr eglwys i wneud yn siŵr eu bod yn cael y cyfle.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Nigel Davies ar (01994)230049 neu mic@uwclub.net. Cofiwn eiriau Iesu Grist, “Gadewch i`r plant ddod ataf fi, peidiwch â`u rhwystro.” (Marc 10:14)

CLWB J.A.M. PENYGROES

Lansiwyd Clwb J.A.M.  ar brynhawn dydd Iau Chwefror 21ain 2013 yn Ysgol Penygroes o dan arweiniad Rosfa’r Consuriwr. Mae J.A.M. yn sefyll am “Joio A Moli” (neu yn Saesneg, “Jesus and Me”).

Mae’r clwb yn cyfarfod yn wythnosol ar nos Iau rhwng 5:30 – 6:30 y.h. yn festri capel Calfaria, Penygroes. Mae J.A.M. yn glwb cyfrwng Cymraeg ac mae croeso i unrhyw blentyn ym mlynyddoedd 3 – 6 i fynychu. Trefnir amrywiaeth o weithgareddau llawn hwyl gan gynnwys gemau, cystadlaethau, gwobrau a chrefft heb anghofio wrth gwrs y stori Feiblaidd. Arweinydd y clwb yw Cerian Beeden sy’n athrawes profiadol ac yn athrawes Ysgol Sul. Am wybodaeth pellach am y clwb gellir cysylltu a naill ai Cerian ar 01269 832261 (e-bost cerianhughes@hotmail.com) neu Y Parchg. Aled Maskell ar 01554 775746 (e-bost aledmaskell@hotmail.com).

Cliciwch ar y lluniau isod i chwyddo eu maint.

CIMG2227    CIMG2235   CIMG2247   CIMG2231  CIMG2232

Cerian Beeden: Arweinydd Clwb JAM Penygroes

 

 

 

 

 

 

CLWB SBARC LLANGYNNWR

Mae’r clwb plant oedd yn arfer cyfarfod yn nhref Caerfyrddin wedi symud i Ysgol Llangynnwr ac wedi ei ail lansio fel “Clwb Sbarc.” Mae’r clwb yn cyfarfod ar nos Iau yn Neuadd yr ysgol rhwng 5:45 – 6:45 y.h. ac yn darparu ar gyfer plant blynyddoedd 3 – 6. Estynnir  groeso cynnes i blant o bob ysgol. Yr arweinydd yw Catrin Hampton sy’n swyddog plant, ieuenctid a theuluoedd yn sir Gaerfyrddin. Am wybodaeth pellach gellir cysylltu â Catrin ar 07595183826.

 

     

        

 

 

Catrin Hampton – Arweinydd Clwb Sbarc

 

CLWB J.A.M. RHYDAMAN

Ym mis Medi 2013 cychwynwyd clwb J.A.M. (“Joio a Moli”) yn Rhydaman. Lansiwyd y clwb gan Rosfa’r Consuriwr ac mae’n cwrdd  yn wythnosol ar nos Iau yn ystod tymhorau’r ysgol yn Neuadd Gellimanwydd o 5:30 – 6:30 y.h. Darperir ar gyfer plant blynyddoedd 2- 6. Mae’r arweinyddiaeth yn cael ei rannu rhwng Lisa Jones, Ann Finch ac Einir Jones ac mae yna groeso cynnes i blant yr ardal i fynychu’r clwb ac ymuno yn yr hwyl. Am fanylion pellach gellir cysylltu â Lisa ar 01269 820730 / liscymru@hotmail.com neu Einir Jones ar 01269 597018 /  einir.jones@yahoo.co.uk Isod gwelir lluniau a dynnwyd yn ystod y lansiad.

Cliciwch ar y lluniau isod i chwyddo eu maint.

photo 2 photo 3 photo 5 photo 1 photo 4

CLWB “fi a Fe” Llanarthne

Ym mis Chwefror 2014 cychwynwyd gwaith plant yn Nyffryn Tywi. Cynhaliwyd lansiad swyddogol yn Neuadd Y Pentref, Llanarthne a daeth nifer dda o blant a’u rhieni ynghyd i’r neuadd i gefnogi’r fenter newydd. Fe’u diddanwyd gan Rosfa’r Consuriwr mewn sioe arbennig o hud a lledrith. Wedi ei blethu i mewn i’r sioe roedd neges Gristnogol a fu’n ffordd effeithiol iawn i gyflwyno’r clwb newydd.

Mae Clwb fi a Fe yn cyfarfod yn wythnosol ar nos Lun rhwng 6:00 – 7:00 y.h. yn ystod tymhorau’r ysgol yn Neuadd Y Pentref, Llanarthne ac mae’n darparu ar gyfer plant blynyddoedd 2 – 6.  Arweinydd y clwb yw Cerian Beeden  a gellir cysylltu â Cerian  ar 01269 832261 neu e-bost cerianhughes@hotmail.com

Cliciwch ar y lluniau isod i chwyddo eu maint.

P1010080  Rhaffau Rosfa a'r Clown P1010103Gwenann a Rosfa

 

 

 

Cerian Beeden (Arweinydd Clwb fi a Fe)

 

CLWB HWYL Y LLAN (Llangennech)

Yn dilyn misoedd o baratoi ac o gydweithio rhwng y Bedyddwyr, yr Annibynwyr a’r Presbyteriaid yn Llangennech sefydlwyd Clwb Hwyl Y Llan yn Chwefror 2016. Cynhaliwyd lansiad llwyddiannus yn Ysgol Gynradd Llangennech o dan arweiniad Rosfa’r Consuriwr. Mae’r clwb yn cyfarfod yn wythnosol ar nos Lun rhwng 6:00 – 7:00 y.h. yn ystod tymhorau’r ysgol yn Neuadd Ysgol Y Babanod, Llangennech. Arweinydd y clwb yw Elin Partridge, sy’n gynorthwydd dosbarth yn Ysgol Y Srade, Llanelli. Am wybodaeth bellach gellir cysylltu ag Elin ar 07854570782 neu elinanne.partridge@gmail.com   Mae’r clwb yn darparu ar gyfer plant blynyddoedd 3 – 6 ac mae croeso cynnes i bawb.

Diwrnod Lansio Clwb Plant Llangennech

Diwrnod Lansio Clwb Plant Llangennech

Rosfa gyda dau wirfoddolwr yn ei helpu i wneud tric.

Rosfa gyda dau wirfoddolwr yn ei helpu i wneud tric.

Rosfa a'r plant yn cael hwyl yn y sioe lansio.

Rosfa a’r plant yn cael hwyl yn y sioe lansio.

Tecwyn Y Tedi yn galw heibio yn y sioe lansio.

Tecwyn Y Tedi yn galw heibio yn y sioe lansio.

CLWB SBRI PONTYBEREM

Sefydlwyd Clwb Sbri nôl yn 2011 gan Y Parchg. Catrin Roberts ac yna yn 2017 fe wnaeth y clwb ymuno gyda chynllun clybiau plant Myrddin. Mae’r clwb yn darparu at gyfer plant blynyddoedd 2 – 6 ac mae’n cwrdd yn wythnosol yn ystod tymhorau’r ysgol o 4:15 – 5:15 yn festri Capel Soar, Pontyberem. Arweinydd y clwb yw Elin Partridge, sydd hefyd yn arwain Clwb Hwyl Y Llan, Llangennech. Am wybodaeth bellach gellir cysylltu ag Elin ar 07854570782 neu elinanne.partridge@gmail.com Mae croeso cynnes i bawb.

Elin Partridge: Arweinydd Clwb Hwyl Y Llan, Llangennech a Chlwb Sbri, Pontyberem.