Adnoddau

Mae’r dudalen hon yn rhoi i chi wybodaeth am adnoddau sy’n eich cynorthwyo yn y gwaith o gyflwyno neges y Beibl i blant. Mae rhan fwyaf o’r adnoddau hyn yn rhad ac am ddim. Mae hefyd yn eich cyfeirio at fudiadau sy’n medru eich cefnogi gyda gwaith yr Ysgol Sul neu glwb.

Cyflwyniadau Beiblaidd Ar “PowerPoint”

Hanfod gwaith Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol yw cyflwyno hanesion Beiblaidd i blant a’u cymhwyso ar gyfer y dydd heddiw. Mae’r gweledol bob amser yn help i ddenu sylw a diddordeb yr ifanc, ac un dull effeithiol o gyflwyno stori yw trwy gyfrwng PowerPoint. Dyma i chi dri safle sy’n cynnig cyflwyniadau Beiblaidd parod i chi lawr lwytho am ddim.

visionforchildren
Cynhyrchwyd y “PowerPoints” gan gwmni o’r enw “Vision For Children”, ac mae’r hawlfraint ar y cyflwyniadau PowerPoint yn eiddo iddynt hwy. Mae’r fersiwn Gymraeg yn addasiad gan M.I.C. ac ar gael ar wefan Cyngor Ysgolion Sul. Cliciwch YMA

 

freebibleimages
Mae “Free Bible Images” yn cynnig cyflwyniadau PowerPoint Beiblaidd heb iaith. Gellir dewis cael y stori ar ffurf lluniau neu ddarluniau steil comic. Cliciwch YMA

 

beibliblant
Mae “Bible For Children” yn darparu PowerPoints Beiblaidd mewn nifer o ieithoedd gan gynnwys y Gymraeg. (Diolch i’r Parchg. Catrin Roberts am y gwaith cyfieithu). Cliciwch YMA

 

Gwersi a Phosau Beiblaidd

amserbeibl
Cyfres o wersi a phosau Beiblaidd llawn hwyl i blant ac ieuenctid i’w lawr lwytho yn rhad ac am ddim yw Amser Beibl. Cwricwlwm tair blynedd yn cynnwys amrywiaeth eang o hanesion o’r Beibl. Cliciwch YMA

 

dplace
Mae Danielle’s Place yn wefan Saesneg sy’n llawn syniadau da ar gyfer crefftau, gemau a gweithgareddau gyda thema Feiblaidd. Cliciwch YMA

 

Crefft

319px_messy-hands53[1]eaa4bbfbce7c9cb4554606b8be7ba094[1]
Am amrywiaeth eang o ddeunydd crefft a syniadau cyffrous am bris rhesymol cliciwch YMA.

Syniadau Ymarferol


Mae “Creative Kidswork” yn wefan newydd sy’n cynnig cannoedd o syniadau ymarferol ar gyfer dysgu gwirioneddau Beiblaidd i blant. Cliciwch YMA

Ffilmiau Byr i Blant

beiblnet
Mae gan beibl.net nifer o adnoddau Cristnogol i blant sy’n cynnwys dramâu byr, oedfaon a ffilm. Mae ffilm yn ffordd wych a chyfoes i gyflwyno storïau Beiblaidd a gellir eu llawr lwytho am ddim. Cliciwch YMA

 

Bandiau Llawes ac Adnoddau Cristnogol Eraill

4pwynt
Mae bandiau llawes yn bethau poblogaidd gyda’r ifanc ac mae cwmni “THE4POINTS” wedi cynhyrchu bandiau llawes, ynghyd â llawer o adnoddau di-iaith eraill, gyda symbolau sy’n crynhoi hanfodion y ffydd Gristnogol. Yn ychwanegol at hyn mae yna lyfryn bach sy’n esbonio’r 4 symbol a diolch i’r Cyngor Ysgolion Sul mae’r llyfryn hwn ar gael bellach yn y Gymraeg. Cliciwch YMA am fwy o wybodaeth.

 

Mudiadau Cristnogol

cys
Y prif fudiad sy’n darparu adnoddau ar gyfer gwaith Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol cyfrwng Cymraeg yw’r Cyngor Ysgolion Sul. Y Cyngor sy’n cyhoeddi gwerslyfrau Ysgol Sul yn ogystal ag amrywiaeth eang o ddefnyddiau eraill. Datblygiad diweddar yw’r cynnig i lawr lwytho gwersi a ffilmiau byr i blant. Cliciwch YMA ar gyfer gwefan Cyngor Ysgolion Sul ac i lawr lwytho gwersi neu ffilmiau dewiswch “Siop.”

 

cyb
Y brif ganolfan breswyl sy’n darparu gwyliau Cristnogol i blant ac ieuenctid trwy gyfrwng y Gymraeg yw Coleg Y Bala. Mae’r ganolfan yn eiddo i Eglwys Bresbyteraidd Cymru ond mae’r gwasanaeth sy’n cael ei chynnig yn agored i bawb. Mae gan y Coleg staff sy’n brofiadol iawn mewn gwaith plant ac ieuenctid a bob blwyddyn mae pobl ifanc o sir Gaerfyrddin yn mynd i’r Coleg ar gyfer “Y Cwrs Ieuenctid” (12-15 oed) a “Souled Out” (16 oed +). Darperir bws i’w cludo am ddim ac mae’r bobl ifanc bob amser yn dychwelyd wedi elwa’n ysbrydol ac wedi mwynhau “mas draw.” Am fwy o wybodaeth am Goleg Y Bala cliciwch YMA

 

gig
Mae gig (“Gobaith I Gymru”) yn fudiad sy’n bodoli i gefnogi eglwysi Cymraeg yn eu gwasanaeth a’u tystiolaeth i’w cyd Gymry. gig sy’n gyfrifol am wefan www.beibl.net ac Arfon Jones yw Swyddog Maes y Fenter. Mae gan gig ddewis eang o emynau a chaneuon Cristnogol i bob oed ar “PowerPoint” i’w llawr lwytho am ddim. Cliciwch YMA am ddewis o gyfieithiadau cyfoes; caneuon gwreiddiol ac emynau traddodiadol.