Eisteddfod Genedlaethol (Sir Gâr) 2014

Croesawyd yr Eisteddfod Genedlaethol i sir Gâr gyda breichiau agored a gwelwyd tyrfaoedd yn cymryd mantais o’r tywydd rhagorol gan dyrru i’r maes ddydd ar ôl dydd. Dechreuwyd yr wythnos gyda nodyn arbennig wrth i’r Parchg. Beti Wyn James arwain yr oedfa yng nghwmni pobl ifanc o’r eglwysi hynny sy’n perthyn i M.I.C. Roedd yn olygfa hyfryd i weld cymaint o bobl ifanc yn eu crysau llachar melyn ac yn cyfrannu i’r oedfa ar lafar ac ar gân. Diolch i bawb wnaeth gymryd rhan ac i Beti Wyn am y neges gadarn o blaid heddwch yn ein byd.

Yn ddiau un o’r pebyll prysuraf ar hyd yr wythnos oedd pabell yr eglwysi o dan ofal CYTÛN. Roedd y lle yn llawn bwrlwm wrth i bobl o bob oed alw mewn am baned a sgwrs, i ymuno mewn addoliad neu i wrando ar gyflwyniad ar fater crefyddol / moesol. Yn ychwanegol at hyn roedd yna ddarpariaeth ar gyfer plant wrth i Judy Harris, Swyddog Datblygu yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig yng Nghymru drefnu sesiynau crefft ddyddiol ar themau Beiblaidd. Roedd yn fraint i M.I.C. gael bod yn rhan o’r gweithgarwch gan rannu stondin yn ystod yr wythnos gyda C.A.M.U.

Isod gwelir lluniau a dynnwyd yn ystod yr wythnos sy’n adlewyrchu rhywfaint o’r bwrlwm oedd ym mhabell yr eglwysi ac o gwmpas y maes. Diolch i Ynyr Roberts (trefnydd pabell CYTÛN) amdanynt. Cliciwch ar y lluniau rydych am weld, ac yna cliciwch eto er mwyn chwyddo’r maint.

 

 

Author: nigel

Share This Post On