Hwyl Gŵyl Y Pasg (Oed Cynradd)

Cafodd rhai o blant o sir Gaerfyrddin amser penigamp ar y diwrnod cyntaf o wyliau’r Pasg wrth iddynt fynychu dydd arbennig o weithgareddau cyffrous yn Ysgol Griffith Jones San Clêr. Y thema o dan sylw oedd y proffwyd Jona. Cyflwynwyd yr hanes mewn sesiynau cyfoes gyda grwpiau trafod a chrefft. Trefnwyd hefyd amrywiaeth eang o gemau llawn hwyl a chyffro gan gymryd mantais o’r cyfleusterau gwych sydd gan yr ysgol i’w chynnig.

Diweddwyd y dydd gyda phryd blasus o sglodion a selsig ac fe wnaeth pawb ddychwelyd adre wedi blino ond hefyd wedi mwynhau mas draw.

Cliciwch ar lun, ac yna ar ôl ei agor cliciwch arno eto er mwyn chwyddo ei faint.

Author: nigel

Share This Post On