Hwyl Gŵyl Y Pasg (Oed Uwchradd)

Treuliodd criw o bobl ifanc o sir Gaerfyrddin ddiwrnod cyffrous ym Mae Morfa, Pentywyn yn ystod gwyliau’r Pasg. Mae Bae Morfa yn ganolfan gweithgareddau awyr agored o safon a chafodd y bobl ifanc ddiwrnod i’w gofio. Yn ystod y bore trefnwyd amrywiaeth o gemau mewn timoedd ac yna yn y prynhawn cafwyd cyfle i gymryd rhan yn rhai o weithgareddau cyffrous y ganolfan. Diweddwyd y diwrnod gyda’r hen ffefryn, sef cwrs antur mwd trwy’r goedwig gyda chawod dwym a phryd o fwyd yn dilyn.

Yn ychwanegol i’r gweithgareddau hwyl cafwyd cyfle i ystyried y cwestiwn pwysig, “Pwy yw Iesu?” Yn ddiau, bu hwn yn ddiwrnod llwyddiannus, ac fe wnaeth y bobl ifanc ddychwelyd adref wedi mwynhau ond hefyd wedi eu herio i feddwl mwy am y Gŵr wnaeth newid cwrs hanes.

Cliciwch ar lun, ac yna ar ôl ei agor cliciwch arno eto er mwyn chwyddo ei faint.

Author: nigel

Share This Post On