Joio Gyda Iesu 2019

Cynhaliwyd oedfa flynyddol M.I.C., sef “Joio Gyda Iesu” yng Nghapel Seion, Drefach ar brynhawn Sul Tachwedd 3ydd. Daeth tyrfa niferus ynghyd, ac roedd yn bleser i weld  y llofft a’r llawr bron yn llawn.

Arweiniwyd yr addoliad yn fywiog a hwylus gyda Marie Seymour yn cyfeilio, Aled Mainwaring yn chwarae’r gitâr a Wayne Griffiths ar y drymiau.  Cymerwyd rhan gan aelodau ifanc o Ysgolion Sul y cylch a bu côr Ysgol Drefach yn canu dwy gân yn hyfryd a swynol. Fel arwydd o werthfawrogiad am gyfraniad yr ysgol, cyflwynodd Tom Defis (cadeirydd pwyllgor llywio M.I.C.), gopi o’r llyfr canu Cristnogol, “Canu Clod 1”, i  Manon Jones (prifathrawes).

Un o’r gwestai gwadd eleni oedd Isaias Grandis sy’n dod yn wreiddiol o Batagonia ond sydd bellach yn weinidog yn ardal Llanelli. Fe’i holwyd am ei brofiadau a’i ffydd gan Catrin Hampton a diddorol oedd clywed am ei gefndir yn Y Wladfa a’r ffordd cafodd ei arwain i fod yn weinidog yr efengyl yng Nghymru.

Eitem boblogaidd o flwyddyn i flwyddyn yw’r sgets. Eleni perfformiwyd sgets, “Cymerwch Y Moddion!” gan aelodau o Gapel Seion. Fel arfer roedd y sgets yn un ddigri gyda neges ddifrif.

Yn dilyn y sgets daeth yr ail westai i’r blaen, sef Geraint Morse, sydd bellach yn weinidog yn ardaloedd Croesgoch a Phencaer. Cyflwynodd neges syml ond effeithiol, gan ddefnyddio 7 belt “karate”, pob un a lliw gwahanol, a gan roi symbol ysbrydol i bob lliw, eglurodd gynnwys yr efengyl.

Diweddwyd yr oedfa arbennig hon wrth i Gwyn Elfyn Jones (gweinidog Capel Seion) gyhoeddi’r fendith.

Oedfa 2020: Dalier sylw bod oedfa M.I.C. y flwyddyn nesaf yn cael ei chynnal yng Nghapel Peniel ar Dachwedd 1af am 2:30 y.p., a’r siaradwr gwadd fydd Owain Edwards (Coleg Y Bala). Gwneir apêl i eglwysi’r ardaloedd cyfagos i beidio â chynnal oedfa ar y prynhawn Sul hwn ond i ymuno yn dyrfa fawr i “joio gyda Iesu.”

Diolch i Bryan Davies (Hermon) am y lluniau isod. Cliciwch ar y lluniau er mwyn chwyddo eu maint ac yna sgroliwch o un i’r llall.

 

Author: nigel

Share This Post On