Mabolgampau Dan Do 2019

Daeth tymor arall o weithgareddau ar gyfer Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol sir Gaerfyrddin i derfyn gyda digwyddiad mwyaf poblogaidd y flwyddyn, sef y mabolgampau dan do. Daeth cannoedd ynghyd i gymryd rhan ac i gefnogi dros dair noson o gystadlu. Yr uchafbwynt oedd rowndiau terfynol y sir a gynhaliwyd yng nghanolfan hamdden Caerfyrddin.

Llanwyd y neuadd chwaraeon i’r ymylon wrth i blant a phobl ifanc o’r oed meithrin hyd at flwyddyn 13 gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau. Roedd y campau’n cynnwys rasys 1 a 2 lap; rasys cyfnewid; rasys rhwystrau; taflu pwysau; taflu pêl am nôl; naid hir; neidio cyflym a thaflu peli at darget. Yn cloi pob noson roedd y cystadlaethau tynnu rhaff. Gwobrwywyd pawb wnaeth gyrraedd y rowndiau terfynol gyda medalau neu dystysgrif. Cafwyd cystadlu brwd, ond yn fwy pwysig na dim, cafwyd nosweithiau llawn hwyl oedd wrth fodd pawb oedd yn bresennol.

Unwaith eto bu’r achlysur yn hysbyseb o’r math orau i godi proffil yr Ysgol Sul a’r clwb Cristnogol ymhlith yr ifanc, gan brofi bod y ffydd Gristnogol yn ymestyn i bob agwedd o fywyd ac nid yn unig i oedfaon ar y Sul.

Isod mae llu o luniau a dynnwyd yn ystod y rownd derfynol. Diolch i Bryan Davies (Hermon) amdanynt. Cliciwch ar y lluniau er mwyn chwyddo eu maint ac yna sgroliwch o un i’r llall.

Author: nigel

Share This Post On