C.I.C. Ar Daith
Arbrawf newydd yng nghalendr gweithgareddau M.I.C. oedd cynnal noson hwyl i bobl ifanc, a hynny mewn cydweithrediad â Choleg Y Bala. Mewn cyfnod pan fod nifer y bobl ifanc sydd mewn cysylltiad â chapel ac eglwys yn brin, roedd yn dda i fedru trefnu digwyddiad i’w gwahodd ynghyd o wahanol ardaloedd ar draws y sir.
Cyfarfu’r bobl ifanc yn gyntaf oll yn y “Laser Station” yng Nghaerfyrddin ble cawsant hwyl fawr yn chwarae dwy gêm laser gyda bwyd yn dilyn. Ar ôl hynny buont yn “Yr Atom”, sef y ganolfan Gymraeg newydd sydd yn y dref, gyda chyfleusterau modern sy’n ddelfrydol ar gyfer gweithgaredd gyda phobl ifanc. Yno bu arweinwyr Cwrs Ieuenctid Coleg Y Bala yn arwain sesiwn pwrpasol, llawn hwyl gyda nifer o gemau oedd wrth fodd y bobl ifanc. Cafwyd cyfle hefyd i son rhywfaint am y gwersylloedd a gynhelir yng Ngholeg Y Bala ar gyfer ieuenctid gan gynnwys y penwythnos hir adeg hanner tymor – Chwefror 24-26 – ac wrth gwrs Y Cwrs Ieuenctid yn ystod yr haf a gynhelir eleni ar Orffennaf 31 – Awst 4. Trefnir bws am ddim o’r de i’r digwyddiadau hyn.
Tybiwyd bod yr arbrawf hwn wedi bod yn ddigon o lwyddiant i’w gwneud yn achlysur blynyddol a’r flwyddyn nesaf y Ganolfan Bowlio 10 yng Nghaerfyrddin bydd y man cyfarfod, a hynny ar Ionawr 19.
Cliciwch ar y lluniau er mwyn chwyddo eu maint ac yna sgroliwch o un llun i’r llall.
- Criw y bobl ifanc ac arweinwyr.