Parti Pancws!
Helo Pawb a croeso i Parti Pancws!
Rwy’n gyffrous iawn i gyhoeddi digwyddiad nesaf MIC a fydd yn glwb 45 munud ar Zoom. Bydd y clwb yn cael ei gynnal ar 16eg o Chwefror 2021 (diwrnod Pancws) a bydd yn cynnwys gemau, gweithgareddau a neges fer o’r Beibl. Mae’r digwyddiad ar gyfer plant ysgol Gynradd blynyddoedd 3-6.
Oherwydd bod y digwyddiad ar Zoom gofynnwn ichi gofrestru’ch plentyn i’r digwyddiad er mwyn cadw manylion pawb yn breifat ac yn ddiogel. Dyma’r ddolen i’n ffurflen gofrestru:
Bydd pecyn parti gyda losin a gweithgareddau yn cael ei anfon at bawb sy’n cofrestru cyn Dydd Gwener 12fed felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cofrestru cyn gynted â phosib fel na fyddwch chi’n colli allan! Gweld chi yno!