Parti Pasg 2

Helo Pawb a croeso i Parti Pasg 2 Clwb Myrddin!
Rwy’n gyffrous iawn i gyhoeddi digwyddiad nesaf MIC a fydd yn glwb 45 munud ar Zoom. Bydd y clwb yn cael ei gynnal ar 16eg o Ebrill 2021 a bydd yn cynnwys gemau, gweithgareddau a neges fer o’r Beibl. Mae’r digwyddiad ar gyfer plant ysgol Gynradd blynyddoedd 3-6.

Oherwydd bod y digwyddiad ar Zoom gofynnwn ichi gofrestru’ch plentyn i’r digwyddiad er mwyn cadw manylion pawb yn breifat ac yn ddiogel. Dyma’r ddolen i’n ffurflen gofrestru:

https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSd9D3mBm0QngovwwUhEEjouJuEZ38wWXfpqK_Nggy3Q39-BgQ/viewform?usp=sf_link

Bydd pecyn parti gyda losin a gweithgareddau yn cael ei anfon at bawb sy’n cofrestru cyn Dydd Gwener 9fed felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cofrestru cyn gynted â phosib fel na fyddwch chi’n colli allan! Gweld chi yno!

Author: admin

Share This Post On