Prynhawn ar y traeth!
Mae’r haul yn tywynnu ac mae’r dŵr yn cynhesu felly dyma’r amser perffaith i fod ar y traeth. Dyna pam rwy’n falch o ddweud y bydd ein digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal wyneb i wyneb ar draeth Pembrey!
Mae ‘Prynhawn ar y traeth’ yn union fel beth sy’n cael ei ddweud ar y fflyer; 2 awr o hwyl a gemau ar y traeth i blant oed ysgol gynradd, gyda neges byr o’r Beibl a chystadleuaeth adeiladu castell tywod i orffen ar gyfer y teulu cyfan.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar draeth Pembrey fel bod digon o le i bawb. Byddwn wedi ein lleoli wrth y brif fynedfa i’r traeth o’r parc gwledig ac mae gennym fflag gyda MIC arno fel y gallwch ddod o hyd i ni yn hawdd.
Mae lleoedd yn gyfyngedig i 30 o blant yn unig felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru cyn gynted â phosibl fel na fyddwch yn colli allan!
Dyma’r linc I gofrestru:
https://docs.google.com/forms/d/1xHLW2kgbfYZUXpryzA3sG_s7zoQnKUsAsYLOzohHInY/edit
Gofynnir i deuluoedd I cadw bellter cymdeithasol yn y digwyddiad er mwyn dilyn y canllawiau cyfredol. Plis dewch â’ch bwcedi a’ch rhawiau eich hun gyda chi hefyd.
Gwelwch chi yna!