Rheoli a Diogelu Data

POLISI DIOGELU DATA Menter Ieuenctid Cristnogol (M.I.C.)

Datganiad Polisi
Mae pwyllgor llywio M.I.C. wedi ymrwymo i sicrhau ei bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol Deddf Diogelu Data 1998 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2018.

Rydym wedi penodi Nigel Davies (Swyddog Plant / Ieuenctid M.I.C.) i oruchwylio proses Diogelu Data y Fenter. Dylai unrhyw gwestiynau sy’n codi mewn perthynas â materion Diogelu Data gael eu cyfeirio at Nigel Davies yn y lle cyntaf.

Pam yr ydym yn prosesu data personol?
Rydym yn prosesu data personol er mwyn ein helpu i wneud y canlynol:

  • Cysylltu gydag eglwysi sy’n aelodau o M.I.C. (a ble mae’n briodol cyfeillion y Fenter) gyda gwybodaeth am ddigwyddiadau sy’n cael eu trefnu gan y Fenter
  • Hysbysebu Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol am ddigwyddiadau perthnasol eraill e.e. arddangosfa adnoddau; hyfforddiant. Weithiau bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu trefnu gan fudiadau eraill.

Hysbysiad Preifatrwydd: Yn unol â’r polisi hwn, rydym hefyd wedi mabwysiadu hysbysiad preifatrwydd sy’n pennu pa wybodaeth yr ydym yn ei chadw, sut yr ydym yn storio’r wybodaeth honno, a sut y mae’r wybodaeth honno’n cael ei phrosesu.

 

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Cyflwyniad
Yn unol a Deddf Rheoli a Diogelu Data mae’n ofynnol i ni ddweud wrth yr eglwysi hynny sy’n perthyn i M.I.C. a chyfeillion y Fenter pa wybodaeth sydd gennym amdanynt, a sut yr ydym yn ei storio a’i defnyddio.

1. Pa wybodaeth yr ydym yn ei chadw?
Rydym yn cadw enwau, cyfeiriadau, rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost ein haelodau a rhai cyfeillion y Fenter sydd wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny.

2. Sut yr ydym yn storio’r wybodaeth?
Mae gwybodaeth electronig yn cael ei diogelu gan gyfrinair.

3. Sut y byddwn yn prosesu eich data personol?
A. Manylion yr Aelodau: Mae M.I.C. yn cadw manylion cyswllt (enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost) yr unigolion hynny sydd wedi eu penodi gan eu heglwysi i dderbyn gohebiaeth gennym er mwyn i ni fedru:

  • cadw mewn cysylltiad â chi (e.e. anfon Llythyr Newyddion a Gweddi atoch dair gwaith y flwyddyn)
  • rhoi gwybod i chi am ddigwyddiadau a drefnir gennym ar gyfer plant ac ieuenctid e.e. chwaraeon, Bwrlwm Bro a.y.b.
  • rhoi gwybodaeth i chi am adnoddau, hyfforddiant neu ddigwyddiadau perthnasol a drefnir gan fudiadau eraill.

Pa mor hir y byddant yn cael eu cadw?
Bydd yr wybodaeth angenrheidiol yn cael ei chadw am gyhyd ag y byddwch yn dymuno i ni gysylltu gyda chi. Mae croeso i chi ar unrhyw adeg i ofyn am i’ch manylion personol gael ei dileu o’n bas data.

B. Cyfeillion M.I.C.: Mae M.I.C. yn cadw manylion cyswllt (enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost) y cyfeillion hynny sydd wedi gofyn i ni anfon gohebiaeth atynt er mwyn i ni fedru:

  • yn bennaf, i gadw mewn cysylltiad â chi (e.e. anfon Llythyr Newyddion a Gweddi atoch dair gwaith y flwyddyn)
  • ble mae’n berthnasol i roi gwybod i chi am ddigwyddiadau a drefnir gennym ar gyfer plant ac ieuenctid e.e. chwaraeon, Bwrlwm Bro a.y.b.
  • ble mae’n berthnasol, i roi gwybodaeth i chi am adnoddau, hyfforddiant neu ddigwyddiadau a drefnir gan fudiadau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi.

Pa mor hir y byddant yn cael eu cadw?
Bydd yr wybodaeth angenrheidiol yn cael ei chadw am gyhyd ag y byddwch yn dymuno i ni gysylltu gyda chi. Mae croeso i chi ar unrhyw adeg i ofyn am i’ch manylion personol gael ei dileu o’n bas data.

Rhannu eich Data Personol
Ni fyddwn yn rhannu eich data personol â thrydydd partïon oni fyddwn wedi sicrhau eich cydsyniad ymlaen llaw, neu oni fydd yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Eich hawliau
Mae gennych nifer o hawliau mewn perthynas â’r data personol a gedwir amdanoch. Gallwch ofyn am gopi o’r data personol a gedwir, ynghyd â’r modd y cânt eu prosesu. Mae gennych hefyd yr hawl i ddiweddaru, diwygio a chyfyngu ar eich data personol, neu’r hawl i dynnu eich cydsyniad yn ôl o ran eu prosesu, ynghyd â’r hawl i ddileu eich data yn llwyr. Os byddwch yn dymuno arfer eich hawliau, cysylltwch â Nigel Davies ar 01994230049 neu mic@uwclub.net