Taith Stori’r Mis 2019

Ers nifer o flynyddoedd bellach, mae’r Suliau yn ystod Hydref a Thachwedd yn cael eu neilltuo gennyf i ymweld ag eglwysi ac annerch mewn oedfaon teuluol. Unwaith eto eleni mae’r dyddiadur wedi bod yn llawn a charwn ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi estyn gwahoddiad i mi ymweld. Mae bob amser yn fraint i gael cwrdd gyda phlant, ieuenctid a’u teuluoedd ac i rannu ganddynt y newyddion da am Iesu Grist.

Roedd y neges eleni yn seiliedig ar yr hanes am Iesu yn golchi traed y disgyblion. Trwy gyfrwng cyflwyniad gweledol ac ychydig hud y nod oedd dod â’r neges yn fyw ym mhrofiad y plant a’r gynulleidfa.

Isod mae lluniau o rai o’r plant a’r bobl ifanc hynny wnaeth gymryd rhan a chynorthwyo yn ystod y daith. Cliciwch ar y lluniau er mwyn chwyddo eu maint.

Author: nigel

Share This Post On