Tanio’r Fflam 2019

Oedfa ar gyfer plant ac ieuenctid capeli ardaloedd San Clêr, Bancyfelin, Meidrim a’r cylch yw Tanio’r Fflam. Eleni cynhaliwyd yr oedfa yng nghapel Bancyfelin. Thema’r oedfa oedd “Gwyrthiau Iesu” a chafwyd darlleniadau o’r Ysgrythur a chyflwynwyd emynau gan blant a phobl ifanc o gapeli Bancyfelin; Cana; Tŷ Hen; Trinity, San Clêr; Gibeon; Ffynnonbedr; a Bethlehem, Pwll Trap. Yn arwain yr oedfa oedd Dr Eirian Thomas ac yn chwarae yn y band oedd Margaret Evans (allweddellau), Daniel O’ Callaghan (ffliwt), Dafydd Davies (drymiau), Lowri Powell, Rachel Howells a Ffion Haf Howells (clarinét). Arweinydd y gân oedd Alwen Davies.

Cefais y fraint o annerch y gynulleidfa luosog ar y testun, “Mae’n amhosib plesio Duw heb ffydd.” (Hebreaid 11:6). Gyda chymorth pwynt pŵer a hud, cyflwynwyd yr hanes am Iesu’n iachau gwas y canwriad Rhufeinig.

Isod mae lluniau o’r rhai wnaeth gymryd rhan yn ystod yr oedfa.  Cliciwch ar y lluniau er mwyn chwyddo eu maint

 

Author: nigel

Share This Post On